P-04-619LLEOLIAETH O RAN CYNLLUNIO AC IAWNDAL AR GYFER
TRYDYDD PARTÏON
Testun y ddeiseb
Rydym yn galw ar Gynulliad Cenedlaethol Cymru i annog
Llywodraeth Cymru i sicrhau/warantu, wrth iddi ddiwygio'r system
gynllunio yng Nghymru, y cymerir penderfyniadau cynllunio ar y
lefel fwyaf lleol posibl er mwyn galluogi digon o gymorth i'r
gymuned ac ymgysylltu â hi. Ar ben hynny, mae'n annog
Llywodraeth Cymru i archwilio'n fanwl effaith cynlluniau seilwaith
mawr ar drydydd partïon yng Nghymru ac ystyried rhoi ar waith
ddeddfwriaeth i amddiffyn yn iawn pob Trydydd Parti, a gwneud iawn
ag ef, lle mae adeiladu, comisiynu a gweithredu prosiectau
seilwaith mawr yn peri colled wirioneddol iddo.
Prif ddeisebydd: Mr Michael Halsey
Ysytyriwyd am y tro cyntaf gan y
Pwyllgor:
Nifer y llofnodion: 96